Mae pwyllgor apêl yr Eisteddfod eleni ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn bwriadu parhau â’i waith ar ôl y Brifwyl.
“R’yn ni wedi bod yn lwcus,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith eleni, Richard Davies.
“R’yn ni fel pwyllgor apêl yn teimlo’n ddyledus iawn i’r Eisteddfod ac am yr arian sydd wedi dod aton ni. Felly, rydyn ni’n cychwyn cangen o Gyfeillion yr Eisteddfod Genedlaethol – Cangen Blaenau Gwent.
“Y gobaith yw y byddwn ni’n parhau i gynnal gweithgareddau Cymraeg eu naws ac unrhywbeth yr ydyn ni’n ei godi, gallwn ni ei basio fe mlaen i Wrecsam a Bro Morgannwg y flwyddyn ar ôl hynny.”
Yn ôl yr athro drama yn Ysgol Gyfun Gwynllyw a’r cadeirydd ieuengaf erioed ar Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, mae’r ŵyl wedi bod yn hwb anferth i Gymreictod yr ardal.
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon