Mae Cadeirydd Bwrdd y Theatr wedi dweud nad oes unrhyw gyfiawnhad ar hyn o bryd dros symud cartre’r Theatr Genedlaethol o Gaerfyrddin.
Dyna ddywed Ioan Willams, sydd ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol y Theatr yn sgil ymddiswyddiad y Cyfarwyddwr Artistig, Cefin Roberts, ddechrau’r flwyddyn.
Yn ôl Ioan Williams, mae eisoes wedi cwrdd â Chyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol Saesneg er mwyn trafod cydweithio at y dyfodol. Ond mae angen cydweithio hefyd gyda chwmnïau Cymreig eraill, meddai.
“Gwirion”
“Mae’n hollol wirion weithiau… fues i yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn y Bont (Pontrhydfendigaid), a’r un noson roedd rhywbeth ymlaen gydag Arad Goch yn Aberystwyth, a rhywbeth ymlaen yn Llanbed.
“Felly rhaid, mae’n amlwg, i’r cwmnïau Cymraeg ddod at ei gilydd mewn ffordd tipyn bach mwy ffurfiol i rwydweithio o ran rhaglenni.
“Mae’n hynod bwysig – dw i yn gobeithio bydd y Theatr Gymraeg a’r Theatr Saesneg yn cydweithio. Dywedodd rhywun wrtha’ i yn ddiweddar bod y Theatr Genedlaethol ar gyfer y Cymry Cymraeg a’r National Theatre i’r Saeson, ac fe ddywedais i ‘na, nonsens’. Mae’r ddau gwmni i’r Cymry.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon
Llun: Cyfarwyddwr Artistig cynta’ Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts