Mae ffigurau yn dangos fod gweithwyr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi colli miloedd o ddiwrnodau gwaith oherwydd eu bod nhw dan straen.

Yn ôl yr ymchwil a waned gan bapur newydd y Daily Post, mae’n debygol fod hyn oherwydd y trafferthion economaidd diweddar.

Roedd y papur wedi cael gafael ar ystadegau gan rai o awdurdodau lleol y gogledd, sy’n dangos fod gweithwyr Cyngor Conwy sy’n cyflogi 3,552 o bobol wedi colli 12,103 diwrnod gwaith rhwng 2009 a 2010, yn sgil cyflyrau yn ymwneud â straen.

Yn Sir Ddinbych lle mae 5,000 o weithwyr cyngor, collwyd 10,476 o ddiwrnodau; ac yng Ngwynedd, lle mae 7,000 o weithwyr, collwyd 5,768 o ddiwrnodau.

Cyfri’r gost

Mae’r ffigyrau ar gyfer Conwy yn dangos bod y dyddiau gwaith a gollwyd gan weithwyr yn costio £1,015,649 i’r cyngor.

Dyw hyn ddim yn cyfri’r gost am gyflogi gweithwyr rhan-amser a thaliadau goramser i’r sawl wnaeth gymryd eu lle.

Mae adroddiad y papur hefyd yn awgrymu bod lefelau straen wedi cynyddu ymhlith gweithwyr yr awdurdod yn sgil y dirwasgiad.

Mae awgrym fod gweithwyr yn teimlo straen am eu bod yn gweithio’n galetach am eu bod yn ofni colli eu gwaith yn dilyn toriadau mewn gwariant cyhoeddus.