Yng Nghaerdydd y mae’r nifer uchaf yng Nghymru o bobol wedi cael eu dal yn edrych ar deledu heb drwydded.
Fe gafodd 1,192 o bobol eu dal yn y brifddinas yn ystod chwe mis cyntaf 2010, yn ôl TV Licensing.
Mae hyn yn cymharu â’r 1,124 gafodd eu dal yn Abertawe; 745 yng Nghasnewydd; 397 ym Mhen-y-bont ar Ogwr; 656 yn Wrecsam; 225 ym Mhontypridd, a 197 yn Aberdâr.
Fe gafodd bron 209,000 o bobol eu dal ar draws gwledydd Prydain.
Yn y lleiafrif
Er hyn, yn ôl TV Licensing, dim ond tua 5% o’r boblogaeth sydd bellach yn osgoi talu’r drwydded.
“Mae’r mwyafrif llethol o bobol yng Nghaerdydd yn talu am eu trwydded,” meddai llefarydd TV Licensing yng Nghymru, Warren Carr.
“Ac i fod yn deg â’r rhai sydd yn talu, mae’n rhaid bod yn gadarn efo’r rhai sy’n ceisio peidio gwneud hynny.”
Y gost
Mae trwydded ar gyfer teledu lliw yn costio £145.50 yn flynyddol, ac mae’n rhaid talu’r ffi os yw rhaglen yn cael ei gwylio neu ei recordio ar y bocs, ar gyfrifiadur neu drwy unrhyw gyfrwng arall.
Fe all pobol sydd ddim yn talu wynebu dirwy o hyd at £1,000.