Mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu y byddai’n cefnogi awdurdodau lleol sydd eisio gosod isafswm pris ar alcohol.
Fe ddywedodd David Cameron y byddai’n “hynod sympathetig” at gynlluniau i osod isafswm pris o 50c ar bob uned o alcohol ym Manceinion.
Mae deg o awdurdodau lleol yr ardal eisiau pasio is-ddeddfau alcohol mewn ymdrech i fynd i’r afael â phroblemau iechyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud ag yfed gormod.
Mae’r cynlluniau’n cael eu cefnogi gan ddoctoriaid ac arbenigwyr iechyd. Ond, yn y gorffennol dyw’r Llywodraeth heb ddangos cymaint â hynny o gefnogaeth.
Yn y gorffennol, mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Andrew Lansley, wedi mynegi pryder y byddai cynllun o’r fath yn cosbi teuluoedd sydd ar incwm isel.
‘Syniad da’
Er nad oedd eisiau cyflwyno isafswm pris cenedlaethol, fe ddywedodd David Cameron y gallai gefnogi cynlluniau lleol.
“Dw i’n meddwl ei fod yn syniad da i gynghorau ddod ynghyd ynglŷn â’r pwnc,” meddai. “Lle mae’n bosibl gwneud penderfyniadau’n lleol, r’yn ni’n hapus i hynny ddigwydd.”
Er hynny, fe rybuddiodd y Prif Weinidog y gallai deddf o’r fath fod yn groes i reolau cystadlu’r farchnad – gan y byddai’n golygu fod pris alcohol ym Manceinion yn uwch nag mewn ardaloedd cyfagos.
Bydd rhaid i’r Ysgrifennydd Cartref lofnodi unrhyw is-ddeddfau gan awdurdodau Manceinion cyn iddyn nhw ddod i rym.
Llun: Siiop ddiod rhad (o wefan y cwmni)