Gyda 98 oddi ar 90 pelen, fe arweiniodd y sir i sgôr o 355 am 6 a’u rhoi 374 ar y blaen ar ddechrau’r diwrnod ola’.

Fe drawodd chwech chwech yn ystod y batiad, gan ychwanegu 150 mewn partneriaeth gyda’r agorwr, Gareth Rees.

Fe gafodd yntau 65 ac roedd yna 62 i Jim Allenby. Mae Ben Wright bellach ar 97 heb fod allan ac fe allai Morgannwg benderfynu batio ymlaen am ychydig y bore yma ar wiced hawdd i fatwyr.

Roedd y tîm o Gaerwrangon wedi sgorio 350 am 8 yn eu batiad cynta’ nhw gyda Robert Croft, Huw Waters a David Harrison yn cael dwy wiced yr un.