Fe fydd cwmni meysydd awyr BAA yn cael gwybod heddiw a fydd miloedd o’u gweithwyr yn mynd ar streic dros gynnig cyflog uwch.
Pe bai’r gweithredu diwydiannol yn digwydd, fe allai olygu anhrefn ar ganol un o adegau prysura’ gwyliau’r haf.
Mae Undeb Unite wedi gofyn i fwy na 6,000 o’u haelodau – swyddogion tân, peirianwyr a staff diogelwch – i bleidleisio tros streic .
Yn ôl BAA, mae eu cynnig cyflog o gynnydd o 1% y flwyddyn nesa’n deg ond dyw’r undeb ddim yn cytuno.
Y ddadl
Yn ôl Unite, roedd eu haelodau wedi derbyn rhewi eu cyflogau yn 2009 ac eleni ond dydyn nhw ddim yn hapus gyda’r cynnig o 1% gyda 0.5% arall yn amodol ar newidiadau i gytundeb salwch.
Mae Unite hefyd eisiau i staff y cwmni dderbyn bonws am waith da – maen nhw’n honni bod y cwmni wedi addo hynny.
Yn ôl BAA, maen nhw wedi gwneud cynnig “rhesymol” mewn cyfnod pan mae “BAA a’u cwsmeriaid yn gweld lleihad yn niferoedd teithwyr o ganlyniad i’r dirwasgiad a’r cwmwl llwch folcanig”.
Llun: Maes awyr Heathrow (Warren Rohner CCA2.0)