Fe fydd y gantores Charlotte Church yn ail afael yn ei gyrfa ganu gyda’i record hir gynta’ ers pum mlynedd.
Ac mae wedi cyfadde’i bod yn teimlo’n ofnus wrth baratoi ar gyfer yr albwm pop sy’n debyg o gael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.
Mae teitl yr albwm a’r brif gân – Back to Scratch – wedi cymryd ystyr newydd ers iddi hi wahanu oddi wrth ei gŵr, y chwaraewr rygbi Gavin Henson.
“Mae wedi dod yn gân berffaith ar gyfer fy sefyllfa felly dw i’n ei chanu gyda llawer o arddeliad,” meddai Charlotte Church sydd bellach yn fam i ddau o blant.
Yn 2005 y cyhoeddodd hi ei record ddiwetha’ – ers hynny mae wedi canolbwyntio mwy ar waith teledu gan gynnwys bod yn un o’r beirniaid ar y rhaglen dalent Over the Rainbow.
Llun: Charlotte Church adeg cyhoeddi ei record ddiwetha’ (Keven Law – CCA2.0)