Mae’n ymddangos bod capten Cymru a’i glwb wedi ffraeo unwaith ac am byth.
Dim ond trwy newyddiadurwyr y cafodd Craig Bellamy wybod ei fod wedi ei adael allan o garfan Manchester City ar gyfer eu gêm gynta’ yng nghystadleuaeth Cwpan Europa.
Mae sôn hefyd y bydd y Cymro’n cael dirwy o £160,000 ar ôl beirniadu rheolwr Manchester City, Roberto Mancini.
Cyn gêm Cymru yn erbyn Luxembourg, roedd Bellamy, a oedd yn 31 y mis diwetha’, wedi awgrymu y gallai ymddeol o’r gêm pe bai’n colli ei le yn y garfan.
Mae hefyd wedi dweud y byddai wrth ei fodd yn ceisio helpu Caerdydd i gyrraedd yr Uwch Gynghrair ond mae clybiau fel Spurs yn debyg o ddod ar ei ôl hefyd.