Bydd tair cloch o Gymru yn cael eu dychwelyd i Chile ar ôl treulio bron i 150 mlynedd yn Abertawe, datgelwyd heddiw.
Cafodd y clychau eu gwerthu a’u symud i Abertawe ar ôl tân yn eglwys La Compañía de Jesús ym mhrifddinas Chile, Santiago yn 1863.
Fe wnaeth y tân ladd mwy nag 2,500 o bobol a dinistrio’r eglwys, heblaw am y pum cloch metal.
Cafodd tri eu prynu gan y masnachwr Prydeining Graham Vivian a’u symud i Eglwys All Saints yn Ystumllwynarth.
Gosodwyd y clychau yn nhwr yr eglwys yn 1865, ond tynnwyd nhw i lawr a’u rhoi yn y neuadd yn 1964 am nad oedd yr adeilad yn gallu dal eu pwysau.
Penderfynodd cyngor yr eglwys eu dychwelyd nhw fel rhodd yn dilyn daeargryn Chile ym mis Chwefror.
Fe fydd y clychau yn cyrraedd porthladd Valparaiso dechrau mis nesaf ac yna’n cael eu cario draw i Santiago fel rhan o gofeb ar safle’r hen eglwys.
“Roedd ein penderfyniad ni i roi’r clychau hanesyddol i bobol Chile yn un unfrydol,” meddai offeiriad y plwyf, y Parch Keith Evans.
“Mae’r gymuned gyfan yn y Mwmbwls yn cefnogi’r cynllun, ac mae hanes trist clychau Santiago yn dal i gael ei gofio yma.
“Er ein bod ni wedi meddu ar y clychau ers bron i 150 mlynedd roedden ni’n teimlo mai eu lle priodol nhw oedd fel rhan o gofeb newydd i’r 2,500 o bobol fu farw yn 1863.”
(Llun: Gwefan y plwyf)