Fe fydd y Prif Weinidog, David Cameron yn datgelu ymosodiad ar bobol sy’n hawlio budd-daliadau yn anghyfreithlon yn yr hydref, addawodd heddiw.

Dywedodd mai lleihau cost flynyddol £5.2 biliwn budd-daliadau oedd yn mynd i bobol nad oedd eu hangen nhw fyddai’r toriad “cyntaf a’r dyfnaf” mewn gwariant cyhoeddus.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Manchester Evening News dywedodd y byddai angen recriwtio asiantaethau credyd er mwyn dod o hyd i bobol sy’n hawlio sydd ddim angen yr arian.

Fe fydd y cynllun newydd yn cosbi’n llymach, yn arwain at fwy o erlyniadau, ac yn annog pobol i gario clecs os oedden nhw’n gwybod bod rhywun arall wrthi.

“Ar adeg pan ydan ni’n gorfod cymryd penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i dorri nôl heb achosi niwed i’r pethau sydd wir eu hangen, dylen ni wneud ein gorau glas i gael gwared ar wallau, gwastraff a thwyll yn ein sustem budd-daliadau,” meddai David Cameron.

“Mae gwallau a thwyll yn y sustem budd-daliadau a chredydau treth yn costio £5.2 biliwn bob blwyddyn i’r trethdalwyr.

“Dyna gost mwy nag 200 o ysgolion uwchradd a 150,000 o nyrsys. Mae’n gwbl warthus a dylen ni ddim gorfod goddef hyn.”

Dywedodd y byddai sustem budd-daliadau symlach y mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith yn gweithio arno yn helpu i leihau’r bil blynyddol £1.6 biliwn ar gyfer gwallau.

“Ond mae’n rhaid gwneud mwy i gael gwared â thwyll. Mae £1.5 biliwn o arian y trethdalwr yn cael ei ddwyn. Dyw hynny ddim yn dderbyniol.

“Dyw hi ddim yn iawn chwaith mai dim ond £20 miliwn o’r arian yna sy’n cael ei adennill bob blwyddyn, ac nad ydi tri o bob pedwar sy’n cael eu dal yn twyllo yn cael eu herlyn.”