Mae achubwyr mewn tref oedd wedi ei daro gan dirlithriad yn China wedi dod o hyd i ddyn oedd wedi bod yn sownd yn y mwd am fwy nag 50 awr.
Roedd y dyn 52 oed wedi bod yn sownd y tu mewn i fflat oedd wedi ei ddymchwel yn dilyn tirlithriadau mewn tref anghysbell yn rhanbarth gogledd-orllewinol Gansu.
Daeth achubwyr gyda cwn ogleuo o hyd i’r dyn, oedd yn wan ond yn anadlu’n arferol.
Roedd rhaid i’r achubwyr dyllu drwy’r mwd gyda llaw i’w ryddhau yn dilyn y tirlithriadau sydd wedi lladd o leiaf 337. Mae tua 1,000 arall dal ar goll.
Dyma llifogydd gwaetha’r wlad ers dros ddegawd. Mae mwy nag 1,1,00 o bobol eisoes wedi marw mewn 28 rhanbarth gwahanol.
Dywedodd un goroeswr yn Gansu, Yang Zhukai, ei fod o wedi dechrau ar y gwaith o adeiladu eirch ar gyfer tua 20 o berthnasau fu farw yn y tirlithriad.
“Roedd o mor annisgwyl, tirlithriad anferth fel hyn,” meddai. “Does dim byd ar ôl. Fe lwyddon ni i ffoi gyda’n bywydau.”
Pacistan a Kashmir
Ym Mhacistan, dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod y llywodraeth yn amcangyfrif bod 13.8 miliwn o bobol wedi eu heffeithio gan y llifogydd yno.
Mae hynny’n waeth na’r tri thrychineb mwyaf cyn hyn – y tsunami ym Mor India yn 2004, y daeargryn yn Kashmir yn 2005 a’r daeargryn yn Haiti yn 2010.
Mae pythefnos o lifogydd wedi lladd 1,500 ac mae pryderon y bydd nifer y meirw yn cynyddu eto o ganlyniad i afiechyd.
Yn Kashmir mae nifer y meirw wedi codi i 165 ar ôl llifogydd trwm, ac mae tua 200 yn dal ar goll.
“Os ydi nifer y bobol sydd wedi eu heffeithio mor uchel ag y mae’r llywodraeth yn ei honni, mae o’n uwch na daeargryn Haiti, Kashmir a tsunami Mor India gyda’i gilydd,” meddai Maurizio Giuliano o’r Cenhedloedd Unedig.
Heddiw gadawodd miloedd o bobol Muzaffargarh, dinas fawr yn rhanbarth Punjab, ar ôl i’r awdurdodau ddefnyddio uchelseinyddion y mosgiau er mwyn cyhoeddi bod llifogydd ar y ffordd.
“Mae maint y trychineb mor fawr mae o’n anodd ei asesu,” meddai Prif Weinidog Pacistan, Yousuf Raza Gilani, yn ystod ymweliad â dinas Multan ynghanol y wlad.
Gogledd Korea
Mae llifogydd wedi dinistrio miloedd o dai yng Ngogledd Corea, ac mae Afon Amnok wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 15 mlynedd, meddai’r Groes Goch heddiw.
Mae 10,000 o bobol wedi gadael eu tai ac yn cysgodi mewn adeiladau cyhoeddus yn ninas Sinuiju ger y ffin gyda China, medden nhw.