Arafodd y twf yng ngwerthiant siopau yn llym ym mis Gorffennaf wrth i bryderon ynglŷn â thoriadau ariannol y Llywodraeth daro hyder cwsmeriaid, datgelwyd heddiw.

Dywedodd Consortiwm Manwerthu Prydain bod gwerthiant wedi cynyddu 0.5% ym mis Gorffennaf, cynnydd llai o lawer na’r 1.2% ym mis Mehefin.

Mae’n debyg mai nwyddau ar gyfer y cartref a ddioddefodd waethaf, gyda gwerthiant yn disgyn yn is nag ym mis Gorffennaf y llynedd.

Syrthiodd gwerthiant dodrefn a lloriau hefyd wrth i gwsmeriaid benderfynu peidio â gwario ar eu cartrefi am y tro.

“Mae’r holl son am doriadau yn poeni cwsmeriaid ac felly maen nhw’n canolbwyntio ar bethau y mae’n rhaid iddyn nhw eu cael,” meddai Stephen Robertson, cyfarwyddwr cyffredinol Consortiwm Manwerthu Prydain.

Tywydd oer

Mae’n debyg bod y tywydd oer ddiwedd y mis diwethaf a diwedd Cwpan y Byd hefyd wedi arafu y twf yng ngwerthiant siopau.

Tyfodd gwerthiant setiau teledu yn gyflym yn y misoedd cyn y Cwpan Pêl-droed y Byd, ond arafodd yr un mor gyflym ym mis Gorffennaf.