Mae bachwr y Dreigiau, Tom Willis, wedi cael ei ail-benodi’n gapten ar y rhanbarth ar gyfer y tymor nesaf.
Dyma’r trydydd tymor yn olynol i Willis fod yn gapten ac fe ddywedodd y bachwr ei fod wrth ei fodd.
“Rwy’n edrych ‘mlaen i gael arwain a helpu’r Dreigiau i adeiladu ar lwyddiannau’r tymor diwetha’,” meddai’r dyn o Seland Newydd sydd wedi chwarae bum tro tros y Crysau Duon.
“Rwy’n credu bod angen i ni wella ein record oddi cartref a chynnal ein record yn Rodney Parade.”
‘Job dda’
Fe ddywedodd hyfforddwr y rhanbarth, Paul Turner, bod Tom Willis wedi gwneud job dda yn gapten ar y Dreigiau.
“Mae ei rinweddau fel arweinydd o’r safon uchaf ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i fod yn llwyddiannus yn y rôl,” meddai Turner.
“Yn ei amser gyda’r Dreigiau, mae Tom wedi cael dylanwad mawr ar y garfan ar ac oddi ar y cae.”