Ni fydd y cyn athro o Aberystwyth, Sion Jenkins, yn derbyn iawndal am y chwe mlynedd y treuliodd yn y carchar cyn cael ei ryddfarnu am farwolaeth ei ferch faeth.
Roedd Sion Jenkins wedi hawlio iawndal o hyd at £500,000 am y cyfnod y treuliodd o dan glo ond gwrthododd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yr achos, yn ôl papur newydd y Daily Mail.
Daethpwyd o hyd i Billie-Jo, 13 oed, mewn pwll o waed ar ôl iddi gael ei tharo ar ei phen gyda pheg metal pabell yn Lower Park Road, Hastings, Dwyrain Sussex, ar 15 Chwefror, 1997.
Roedd Sion Jenkins yn brifathro yn ysgol bechgyn William Parker yn Hastings ar y pryd. Mae’n mynnu bod Billie-Jo wedi ei lladd gan rhywun arall pan oedd o mewn siop DIY.
Dedfrydwyd ef i’r carchar am oes yn Llys y Goron Lewes yn 1998 ond cynhaliwyd achos llys arall yn 2005 ar ôl iddo apelio’n lwyddiannus.
Methodd y rheithgor a dod i benderfyniad a daeth achos llys arall i ben yn yr un ffordd yn 2006. Roedd hynny’n golygu bod Sion Jenkins yn cael mynd yn rhydd.
Mewn cyfweliad papur newydd yn 2008, ar ôl cyhoeddi ei lyfr, The Murder of Billie-Jo, datgelodd Sion Jenkins ei fod o’n gobeithio cael iawndal.
“Rydw i’n credu y dylai’r Llywodraeth fy nigolledu ar ôl cymryd fy rhyddid am chwe mlynedd, oedd hefyd yn golygu fy mod i wedi methu a gweld fy mhlant.”
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oedden nhw’n gallu cynnig sylw ynglŷn a cheisiadau am iawndal.