Mae rheolwr tîm dan 21 Cymru, Brian Flynn, wedi dweud bod dyfodol disglair i bêl-droed yn y wlad oherwydd “grŵp euraidd” o chwaraewyr ifanc.

Ar hyn o bryd mae tîm Brian Flynn ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth dan 21 Ewrop yn Nenmarc y flwyddyn nesaf.

Dwy gêm sy’n weddill, yn erbyn yr Eidal a Hwngari, ac fe fydd rhaid iddyn nhw ennill un o’r rheiny i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.

Fe fydd tîm dan 21 Cymru yn chwarae Malta heddiw mewn gêm gyfeillgar.

Mynd ymlaen

Mae nifer o aelodau o garfan Flynn dros y blynyddoedd diwethaf wedi mynd ymlaen i chwarae dros brif dîm Cymru yn ogystal â chael lle amlwg yn yr Uwch Gynghrair.

Mae’r rhain yn cynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey, Jack Collison, Wayne Henessey, Chris Gunther a Lewin Nyatanga.

Er na fydd y chwaraewyr yma’n rhan o’i dîm yn erbyn yr Eidal a Hwngari mae Brian Flynn yn credu bod mwy o chwaraewyr talentog ar y ffordd.

Elît

“Mae gweithio gyda chwaraewyr elît fel y rhain wedi bod yn beth da,” meddai Flynn.
“R’yn ni wedi cael llwyth yn dod i’r amlwg – anaml y byddwch chi’n cael chwaraewyr fel Bale a Ramsey mewn cyfnod mor fyr”

“Fe fydd y chwaraewyr yma’n fawr ym Mhrydain ac Ewrop. Mae mwy o chwaraewyr da yn dod i mewn i’r tîm eto ac mae hynny’n beth cyffrous.”

Mae Brian Flynn yn credu byddai sicrhau eu lle yn y bencampwriaeth yn hwb mawr i bêl-droed Cymru.

“Dyma fyddai’r digwyddiad mwyaf yng Nghymru ers peth amser. Roedden ni’n agos tro diwethaf yn erbyn Lloegr, ac rwy’n credu gallai’r grŵp presennol fynd un cam ymhellach”

Llun: Un o’r criw euraidd – Gareth Bale