Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi cadarnhau bod y clwb ar gael i’w brynu.
Roedd yr ymddiriedolaeth wedi cysylltu gyda’r perchnogion ynglŷn â’r posibilrwydd ac mae’r perchnogion Wrexham Village Ltd wedi rhoi dau opsiwn iddyn nhw:
• Prynu’r clwb am £1
• Prynu’r clwb a’r Cae Ras am £2m
Mae’r ymddiriedolaeth wedi cytuno i gyfarfod â’r perchnogion eto i drafod y dewisiadau’n fwy manwl ac maen nhw’n aros am fwy o ddogfennau.
Ond fe ddywedodd y cefnogwyr y gallai hyn gymryd amser oherwydd bod angen cwblhau cyfrifon y clwb ar gyfer 2009.
Fe ddywedodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam eu bod nhw yn barod i brynu’r clwb ar yr amod ei fod yn gallu talu ei ffordd yn y tymor hir.
Mae bwrdd yr Ymddiriedolaeth wedi dweud na fyddan nhw’n taro unrhyw fargen gyda’r perchnogion nes bod eu haelodau wedi cael cyfle i drafod a chymeradwyo’r cytundeb.