Fe gafodd Morgannwg dri phwynt batio wrth iddyn nhw geisio cadarnhau eu sefyllfa tua brig Ail Adran pencampwriaeth yr LV yn erbyn Worcestershire.
Dwy bartneriaeth oedd asgwrn cefn y batiad o 319 am 9 ym Mae Colwyn – un o union 100 rhwng Gareth Rees a Mark Cosgrove a 97 rhwng Ben Wright a Jamie Dalrymple.
Cosgrove oedd y seren unwaith eto, gydag 84 mewn 75 pelen ac roedd sgoriau da hefyd i Wright (72) a Dalrymple (56).
Fe allai Morgannwg fod wedi gwneud hyd yn oed yn well yn erbyn y tîm o Gaerwrangon ond fe fu rhywfaint o chwalfa tua diwedd y batiad – ar un adeg fe gollson nhw dair wiced mewn chwe phelawd wrth fynd o 275 am 4.
Ar hyn o bryd, mae Morgannwg yn ail yn y tabl, y tu ôl i Sussex.
Llun: Mark Cosgrove – yr arwr unwaith eto