Mae rheolwr Abertawe wrth ei fodd ar ôl llwyddo i arwyddo’r asgellwr ifanc, Scott Sinclair, o Chelsea.
Roedd Brendan Rogers wedi delio gyda’r blaenwr 21 oed pan oedd yn gofalu am academi ac ail-dîm y pencampwyr.
“Mae’n dalent fawr,” meddai’r rheolwr newydd. “Gyda’r grŵp yma o chwaraewyr, yr arddull o chwarae, ffans gwych a rheolwr sy’n ei nabod, mae’r clwb yma’n lle ardderchog iddo ddatblygu.”
Fe fydd yr Elyrch yn talu £500,000 am Sinclair ond fe allai’r gost godi tros y miliwn os bydd Abertawe’n llwyddo yn y dyfodol.
Roedd Sinclair wedi bod gyda Chelsea ers pum mlynedd ac wedi cael cyfnodau ar fenthyg gyda thimau fel Birmingham a Wigan.