Mae’r gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar ei isa’ ers cyn yr Etholiad Cyffredinol, yn ôl pôl piniwn newydd.
Bellach, dim ond 16% sy’n cefnogi’r blaid – sy’n mynd â hi’n ôl i’w sefyllfa cyn i’r arweinydd, Nick Clegg, wneud llwyddiant mawr o ddadleuon teledu’r etholiad.
Mae’r pôl gan gwmni ComRes i bapur yr Independent yn awgrymu mai’r Democratiaid sy’n cael eu cosbi am fynd i glymblaid gyda’r Ceidwadwyr, gyda 73% o atebwyr bellach yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod tros beth y mae’r blaid yn sefyll.
Cefnogwyr yn troi cefn
O’r bobol a bleidleisiodd i’r blaid adeg yr etholiad ym mis Mai, dim ond 63% a fyddai’n gwneud heddiw – mae gan y Ceidwadwyr a Llafur sgôr ffyddlondeb o fwy na 90%.
Gyda’r Ceidwadwyr yn syrthio un i 39% a Llafur ar 33%, mae’r gefnogaeth i’r syniad o glymblaid wedi cwympo o 45% adeg y pôl diwetha’ i 36% yn awr.
Llun: Nick Clegg – ei effaith wedi mynd?