Mae un o bob pump o bobol ifanc o gartrefi di-waith yn disgwyl bod ar y dôl eu hunain, yn ôl arolwg newydd.
Mae bron cymaint yn teimlo’n ddiobaith os ydyn nhw’n byw mewn ardal lle mae llawer o ddiweithdra o’u cwmpas.
Yn ôl yr arolwg dan adain Ymddiriedolaeth y Tywysog, mae 70% o bobol ifanc o ardaloedd felly eisoes wedi cael trafferth wrth chwilio am swydd.
Rhybudd yr Ymddiriedolaeth yw bod peryg i dlodi o’r fath gael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
“Mae’n drasiedi meddwl fod cymaint yn teimlo eu bod wedi eu tynghedu i fywyd ar fudd-daliadau,” meddai Prif Weithredwr yr elusen, Martina Milburn, wrth lansio’r adroddiad, Destined for the Dole.
“Yr unig ffordd i dorri allan o fagl diweithdra yw rhoi sgiliau, hyder ac esiamplau positif i bobol ifanc eu dilyn. Os methwn ni ag atal y bobol ifanc ddi-fraint yma rhag troi’n oedolion di-fraint, fe fydd y cylch yma yn parhau i felltithio teuluoedd am genedlaethau i ddod.”
Y manylion
Roedd yr elusen wedi cyflogi cwmni arolygon i holi mwy na 2,000 o bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn ardaloedd gyda llawer o ddiweithdra.
Dyma rai o’r ffigurau eraill:
• Doedd chwarter ddim yn teimlo fod gan eu rhieni’r gallu i’w helpu i gael gwaith.
• Doedd gan 49% ddim esiampl dda i’w dilyn a’i hedmygu.
• I 76% o’r bobol ifanc, cael swydd dda oedd eu prif flaenoriaeth.
O holl wledydd Ewrop, yn y Deyrnas Unedig y mae’r nifer mwya’ o bobol Ifanc mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio – 1.9 miliwn. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, mae’r DU yn drydydd o ran cyfradd hefyd.
Mae cyfanswm o 4.8 miliwn o bobol oed gwaith yn byw mewn cartrefi o’r fath.
Llun: Canolfan waith (llun o’r adroddiad)