Dr Jerry Hunter sydd wedi enill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, am ei gyfrol Gwenddydd.

Mae’n byw ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle, gyda’i wraig Judith Humphreys a’u dwy ferch, Megan a Luned.

Y beirniaid oedd Elfyn Pritchard, John Gruffydd Jones a Caryl Lewis. Derbyniwyd 9 o gyfrolau.

“Mae rhagoriaethe y gyfrol yn llwyr orbwyso unrhyw wendide sydd ynddi, ac yn ein trafodaeth fe gadarnhawyd barn y tri ohonom fel unigolion fod Gwenddydd gan M.W., nid yn unig yn orau’r gystadleuaeth, ond yn llawn deilyngu medal ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010,” meddai Elfyn Pritchard.

Derbyniodd Jerry Hunter y Fedal Ryddiaith a gwobr ariannol o £750. Rhoddir y Fedal a’r wobr ariannol gan Ysgol Gyfun Gwynllyw eleni.

Rhoddir y Fedal Ryddiaith eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Adfywiad.

“Gyda rhyfel yn bla ar ein byd ni o hyd, mae rhywun yn clywed yn aml am y modd y mae Post-Traumatic Stress Disorder yn effeithio ar fywydau milwyr a chyn-filwyr,” meddai’r awdur.

“Wrth gwrs, nid peth newydd mohono; yn wir, roedd gan y beirdd a’r storïwyr Cymraeg canoloesol ffyrdd o drafod yr un peth.

“Dyna, er enghraifft, y stori honno am Fyrddin Wyllt – a aeth o’i go’ ym mrwydr Arfderydd. Aeth i fyw mewn coedwig wedyn – yn ‘ddyn gwyllt y coed’ – lle’r oedd yn cyfansoddi barddoniaeth broffwydol.

“Roedd yn osgoi pobl eraill, a’i chwaer Gwenddydd oedd yr unig un a gâi ymddiddan ag ef. Roedd arna’ i eisiau archwilio ochr ddynol y stori honno – union natur y berthynas rhwng y brawd a’r chwaer, yr hyn a oedd yn digwydd yn ystod eu cyfarfodydd yn y goedwig, ac yn y blaen.

“Fy mwriad oedd amlygu’r wedd oesol ar y stori honno drwy’i gosod mewn cyfnod diweddar – neu ddiweddarach.

“Pan fyddaf yn meddwl am y cysylltiad rhwng y presennol a’r gorffennol, mi fyddaf yn aml yn meddwl am yr Ail Ryfel Byd – croesffyrdd y byd modern, fel petai, yn brofiad sy’n perthyn i hanes ac eto’n ddigon agos atom o hyd.

“Bu fy niweddar fam-yng-nghyfraith, Jane Humphreys, yn nyrsio mewn ysbyty milwrol yn ystod y rhyfel hwnnw; ni ddywedwn fod y cymeriad Gwen wedi’i seilio arni hi, ond bu clywed am yr hyn a ddaeth i’w rhan yn ystod blynyddoedd y Rhyfel yn fodd imi agosáu at y math yna o brofiad.”


Hanes Jerry

Ganwyd Jerry Hunter yn Cincinnati, Ohio, Unol Daleithiau’r America. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Cincinnati a chafodd gyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg fel rhan o’i gwrs gradd yno.

Wedi’i ysbrydoli gan gyfoeth yr iaith a’i llenyddiaeth, penderfynodd ddod i Gymru.

Aeth yn gyntaf i Lanbedr Pont Steffan er mwyn ymdrochi yn yr iaith am wyth wythnos cyn ymdaflu i fywyd Cymraeg Aberystwyth, lle’r aeth i ddilyn MPhil yn y Gymraeg.

Ar ôl cyfnod yn chwarae mewn bandiau roc yng Nghymru ac yn Llundain, aeth yn ôl i Cincinnati. Bu’n athro mewn ysgol yng nghanol y ddinas, yn weithiwr cyflogedig i Greenpeace ac yn gweithio ar fferm ei dad.

Aeth wedyn i Brifysgol Harvard i astudio Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd. Ar ôl graddio’n ddoethur, bu’n ddarlithydd yn Harvard am gyfnod byr cyn troi am Gymru unwaith eto.

Ar ôl cyfnod yn darlithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, symudodd i Brifysgol Bangor ac mae bellach yn ddarllenydd yn Ysgol y Gymraeg y brifysgol honno.

Mae wedi cyhoeddi pedwar llyfr academaidd, ac enillodd un ohoynt – Llwch Cenhedloedd – wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2004.

Cyhoeddodd nofel fer i blant, Ceffylau’r Cymylau, yn gynharach eleni.

(Llun: Prifysgol Bangor)