Mae Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi wedi cyhoeddi eu bod nhw eisiau siaradwr Cymraeg ym mhob llys a swyddfa llys yng Nghymru.
Mae Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, wedi croesawu’r cynllun diwygiedig.
Mae’r gwasanaeth hefyd wedi dweud eu bod nhw am hyrwyddo’r hawl i gael gwrandawiad yn yr iaith Gymraeg.
“Mae’n rhoi pleser mawr i mi gymeradwyo’r cynllun,” meddai Meri Huws.
“Mae cyflwyno system ddwyieithog trwy Gymru gyfan yn gam pwysig ymlaen o ran cadarnhau statws yr iaith Gymraeg o fewn y system cyfiawnder troseddol.
“Edrychwn ymlaen at weld Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi yn gweithredu’r cynllun diwygiedig, a’u cynorthwyo i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.”
Cydnabod pwysigrwydd
Mae llefarydd ar ran y gwasanaeth wedi dweud fod rhoi mwy o statws i’r Gymraeg yn bwysig.
“Mae’r cynllun diwygiedig yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg fel iaith fyw yn y gweithle a’i bod â rôl bwysig i’w chwarae yng ngweinyddiad cyfiawnder yng Nghymru,” meddai cyfarwyddwr y cynllun newydd, Clare Pillman.
“Mae’n adeiladu ar y camau mawr a gymerwyd gennym yn ystod y pum mlynedd diwethaf i wella ein gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd.”
Beirniadu
Roedd Bwrdd yr Iaith wedi beirniadu Llywodraeth Prydain ym mis Mawrth eleni, pan wnaethon nhw wrthod caniatáu rheithgorau Cymraeg mewn rhai achosion.
Ar y pryd roedd Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones, wedi dweud fod yr egwyddor o sefydlu rheithgorau dwyieithog yn “ganolog i sicrhau cyfiawnder” mewn achosion lle mae Cymraeg yn cael ei ddefnyddio.
Roedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud ei bod yn fwy pwysig dewis rheithgor ar hap o’r holl gymuned, na chyflwyno’r egwyddor “dymunol” o ddefnyddio’r iaith Gymraeg.