Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am wrthwynebu unrhyw doriadau yn arian S4C.

Maen nhw’n dweud bod y drefn o roi arian i’r sianel wedi ei osod mewn cyfraith ac felly “na ddylai S4C dderbyn y toriadau”.

Maen nhw hefyd yn galw ar wleidyddion i wrthsefyll y bygythiad ac am ddatblygu rhagor o ddeunyddiau ar-lein.

‘Gwrthwynebu’n llwyr’

“Mae S4C yn wynebu toriadau ac rydym fel cymdeithas yn eu gwrthwynebu’n llwyr oherwydd byddan nhw’n cael effaith ddifäol ar economi ac ar y diwydiant cyfryngau yng Nghymru,” meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Menna Machreth, wrth Golwg360.

“Credwn yn gryf fod hwn yn gyfle i ni edrych ar rôl ehangach y sianel fel darparwr cyfryngau cyhoeddus gan ddatblygu deunydd ar-lein. Rydym yn awyddus i fod yn rhan o’r ddeialog gyhoeddus a byrlymus i symud ymlaen â’r agenda hon.”