Mae Golwg 360 yn deall na fydd Gŵyl y Faenol yn cael ei chynnal eleni.

Mae disgwyl cyhoeddiad bore yfory gan y trefnwyr yn cadarnhau’r newyddion, gan ddweud nad oes digon o docynnau wedi eu gwerthu o flaen llaw.

Roedd yr Ŵyl sy’n 10 mlwydd oed eleni i fod i gael ei chynnal ar Ystâd y Faenol ger Caernarfon rhwng 27 a 30ain o Awst, er iddi orfod cael ei chanslo y llynedd.

Fis diwethaf dywedodd trefnwyr yr ŵyl mewn cynhadledd i’r wasg fod yr argyfwng economaidd “yn gosod tipyn o her” i’r ŵyl.

Roedd Bryn Terfel ei hun wedi annog unrhyw un a oedd am fynd i ŵyl y faenol i brynu tocyn ymhell o flaen llaw.

Byddai disgwyl cyn prynu tocyn yn rhoi’r ŵyl “dan bwysau” yn ôl Antony Warren o Universal Music, sy’n hyrwyddo’r digwyddiad eleni.

Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai £250,000 yn cael ei roi i Ŵyl y Faenol.

Mae penderfyniadau ynglŷn â pha fudiadau celfyddydol sy’n derbyn arian yn cael ei wneud gan Gyngor Celfyddydau Cymru.