Fe fu’n rhaid symud noson i gofio’r Prifardd Iwan Llwyd oherwydd bod cymaint o alw am docynnau.

Roedd wedi ei threfnu’n wreiddiol ar gyfer neuadd sy’n dal 80 o bobol ar Faes C ond fe fydd yn awr yn cael ei symud i’r babell fwy’r drws nesa’.

Mae hynny yn yr union fan lle’r oedd maes Eisteddfod Cwm Rhymni yn 1990 pan enillodd Iwan Llwyd y Goron.

Roedd degau o bobol yn poeni y bydden nhw’n cael eu siomi ar ôl i’r tocynnau gwreiddiol werthu’n llwyr o fewn dim o amser.

Fe fydd y noson, ‘Iwan ar Daith’ dan ofal Barddas yn cael ei chynnal ym mhabell Maes C ei hun rhwng 7.30 a 9.00 nos fory, cyn noson gan y Tebot Piws.

Fe fydd y sioe, gan nifer o feirdd oedd yn ffrindiau i Iwan Llwyd, hefyd yn teithio Cymru yn ystod misoedd Medi a Hydref.