Mae Caerdydd wedi cymryd y camau cyntaf i ddod a’r embargo ar arwyddo chwaraewyr newydd i ben.

Mae’r embargo yn atal y rheolwr y clwb Dave Jones rhag cryfhau ei garfan ar gyfer y tymor newydd.

Mae’r Adar Glas wedi talu arian oedd yn ddyledus i chwaraewyr presennol y clwb yn ogystal â thâl diswyddo i chwaraewyr sydd wedi gadael.

Dyma oedd un o dri rheswm pan nad oedd Caerdydd yn cael arwyddo chwaraewyr newydd.

“R’y ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod yr embargo yn cael ei godi erbyn diwedd yr wythnos,” meddai Prif Weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins.

“R’y ni wedi talu’r arian oedd yn ddyledus i’r chwaraewyr, fel oedden ni wedi dweud yr wythnos diwethaf.”

Ond mae dal gan Gaerdydd ddyledion o £500,000 i’w talu i gwmni Charlton yn ogystal â £1.3m i’r adran Cyllid a Thollau, cyn y bydd yr embargo yn cael ei godi.

Bydd Caerdydd yn cychwyn ar eu tymor newydd yn y Bencampwriaeth gyda gêm gartref yn erbyn Sheffield Utd dydd Sul.