Mae un o arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi rhybuddio y byddai methiant i gael pleidleisio cyfrannol – AV – yn bygwth dyfodol y Llywodraeth Glymblaid.

“Y bleidlais AV ydi’r peth allweddol,” meddai’r Arglwydd Roberts o Landudno, un o gyn Lywyddion y blaid yng Nghymru, gan bwysleisio mai cytundeb busnes nid priodas oedd eu perthynas â’r Ceidwadwyr.

“Os na fydd honno’n llwyddo, mi fydd hi’n anodd iawn dal ati. Dyna’r ‘rhwyd diogelwch i ni’,” meddai wrth Golwg360.

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos y bydd llawer o Geidwadwyr yn ymgyrchu yn erbyn y syniad o bleidleisio cyfrannol ac fe allai’r ddadl gael ei cholli mewn refferendwm.

Os felly, meddai’r Arglwydd Roberts – Roger Roberts gynt – fe fyddai yna straen fawr ar y bartneriaeth rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid.

Pynciau anodd eraill

Wrth edrych ymlaen at gynhadledd y blaid yn Lerpwl ym mis Medi, fe ddywedodd hefyd bod nifer o bynciau eraill yn creu anesmwythyd ymhlith aelodau cyffredin – y peryg o adnewyddu arfau niwclear Trident, er enghraifft.

Fe ddywedodd hefyd y byddai’n rhaid iddo ef ei hun ystyried gwrthryfela pe bai’r Llywodraeth yn methu â rhoi stop ar garcharu plant ffoaduriaid.