Mae yna adroddiadau bod rheolwr Tottenham, Harry Redknapp yn awyddus i arwyddo Craig Bellamy ar fenthyg oddi wrth Man City.
Does dim disgwyl i Bellamy chwarae’n gyson i Man City y tymor hwn ar ôl i reolwr y clwb, Roberto Mancini arwyddo David Silva oddi wrth Valencia.
Mae gan Bellamy a Mancini berthynas bregus yn dilyn sawl ffrae rhyngddynt y tymor diwethaf ynglŷn â chynllun ymarfer y Cymro.
Mae Spurs yn ceisio ychwanegu at eu hopsiynau ymosodol cyn i’r tymor newydd gychwyn, ac er nad yw Redknapp wedi datgelu pwy yw ei dargedau, mae’n edmygu doniau capten Cymru.
“Rydw i’n credu y bydd yna fenthyciadau’n digwydd. Rwy’n targedu tri chwaraewr na fyddent yn costio llawer,” meddai Redknapp wrth bapur Daily Mirror.
“Pe baen ni’n eu harwyddo nhw, fe allen nhw gostio tua £8m i £9m. Ond mae benthyciadau yn bosibilrwydd.”