Mae gŵyl newydd a gafodd ei chynnal yn Nhudweiliog eleni wedi “gwneud miloedd” mewn elw, meddai un o’r trefnwyr wrth Golwg360.

Fe gafodd gŵyl gelfyddydol newydd Taran Tudweiliog ei chynnal ar benwythnos Gorffennaf 9fed a’r 10fed 2010.

Yn ôl un o’r trefnwyr, Sioned Medi Jones o Bwllheli roedd “tua 400 yn bresennol ar y nos Wener a 700 ar y Sadwrn”.

Er nad yw’n gallu cadarnhau faint yn union a wnaed mewn elw, mae’r ffigwr “yn y miliynau”.

Mae gwyliau eraill wedi brwydro i barhau mewn amser o gyni ariannol, ac fe benderfynwyd peidio â chynnal un o wyliau mawr arall Gwynedd, Sesiwn Fawr Dolgellau, eleni.

Amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg a Saesneg a digwyddiadau i ddenu ystod eang o bobol oedd y tu ôl i lwyddiant yr ŵyl, meddai’r trefnydd.

“Mae pawb wedi gwirioni cael rhywbeth mawr yn lleol – heb orfod teithio,” meddai Sioned Medi Jones wrth Golwg360.
Fe ddywedodd hefyd fod “y gweithdai, y crochenwaith a’r arlunio wedi denu lot o blant”.

Mae trefnwyr yn gobeithio cynnal yr ŵyl eto’r flwyddyn nesaf ynghyd a “cynnwys corau meibion” gan “barhau i sicrhau fod yr ŵyl yn apelio at deuluoedd”.

“Does dim byd arall fel hyn yn digwydd ym Mhenllyn. Roedd Seindorf Pwllheli hefyd yn llwyddiant. Fe wnaethon nhw chwarae pethau cyfoes a modern,” meddai cyn dweud y bydd rhaglen ddogfen am yr ŵyl yn cael ei darlledu gan Boomerang ar S4C fis Medi.