“Mae’r byd wedi newid, rydan ni’n byw mewn oes lle mae cerddoriaeth wedi dod yn rhywbeth disposable.”

Dyma farn Ynyr Roberts, un o’r brodyr o grŵp Brigyn ar ôl canu ar un o lwyfannau perfformio maes yr Eisteddfod Genedlaethol ddoe.

“Dw i mor falch ein bod ni wedi gwneud tri albwm pan oedd pobl yn prynu ac yn parchu cryno ddisgiau,” meddai Ynyr Roberts wrth Golwg360 cyn dweud eu bod nhw wedi gwerthu “tua 10,000 i gyd”.

Fe ddywedodd y canwr o Wynedd fod cerddoriaeth wedi mynd yn rhywbeth “ffwrdd a hi” ond “nad oedd pwynt cwffio’r peth”.

“Dechrau newydd – blwyddyn newydd. Rydan ni’n rhoi miwsig ar y we beth bynnag ac fe fyddan ni’n parhau i wneud hynny,” meddai cyn dweud nad yw’n poeni am y newidiadau ym myd cerddoriaeth.

“Rydan ni’n dau yn greadigol ac am feddwl am ffordd o’i chwmpas hi,” meddai Ynyr sydd wedi canu yn San Francisco, Iwerddon ac yn yr Alban gyda Brigyn.

Saesneg

Mae Brigyn wedi rhyddhau tua phedairsengl Saesneg eleni ac “am wneud pedair arall cyn diwedd y flwyddyn”.

“Roedd hi’n ddechrau blwyddyn ac yn ddechrau degawd ac roedden ni am wneud rhywbeth ychydig yn wahanol a recordio yn Saesneg,” meddai.

“Fel arfer dydan ni ddim mor gyfforddus yn siarad yn Saesneg. Ond, mae rhai caneuon yn swnio’n well yn Saesneg – eraill lot gwell yn y Gymraeg,” meddai Ynyr.

Mae’r brodyr wedi bod yn perfformio ar lwyfannau a stondinau eisteddfod ddoe ac am fod yn perfformio’n achlysurol drwy gydol yr wythnos.

Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Fe fydd un o gigiau mwya’r flwyddyn y mis yma pan fydd Brigyn yn canu yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

Fe fydd y Brodyr yn canu yn Gymraeg yn bennaf ond yn cynnwys rhai caneuon “mwy gwerinol” Saesneg hefyd.

“Mae’n dda cael gŵyl o’r statws yma yng Nghymru. Mae pobl weithiau yn meddwl mai yn Lloegr mae o ond yng Nghymru mae o. Rydan ni’n edrych ymlaen at ganu yno,” meddai Ynyr Roberts.