Mae gŵyl gwrw anferth yn agor heddiw gan ddatgelu ymchwil newydd sy’n awgrymu y gallai cwrw helpu pobol i golli pwysau.

Yn ôl yr Ymgyrch am Gwrw Go-Iawn mae traean o ddynion a merched yn credu yn anghywir bod gan gwrw mwy o galorïau ynddo na diodydd alcoholic eraill.

Fe fyddai yfed cwrw yn lle gwin unwaith yr wythnos yn torri gymaint o galorïau â jog hanner awr, medden nhw. Roedd hynny oherwydd bod llai o alcohol mewn cwrw na gwin.

“Mae chwedl y bol cwrw wedi ei ddileu am byth,” meddai’r prif weithredwr Mike Benner.

“Y brif neges ydan ni’n ei gyflwyno heddiw ydi y gallai cwrw fod yn rhan o fywyd iach os ydi o’n cael ei yfed mewn ffordd gymedrol.”

Dywedodd yr arbenigwr ar fragu, yr Athro Charlie Bamforth, bod “cwrw wedi cael enw drwg am wneud pobol yn dew am flynyddoedd, ond mewn gwirionedd y gwrthwyneb sy’n wir”.

“Mae’r rhan fwyaf o’r calorïau mewn diod yn dod o’r alcohol ei hun. Does dim cymaint o alcohol mewn cwrw felly mae yna lai o galorïau.”

Cyhoeddwyd yr ymchwil i gyd fynd gydag agoriad gŵyl Great Beer Festival yr Ymgyrch am Gwrw Go-Iawn yn Llundain.