Mae cyn AS ac AC Llafur, fu’n arweinydd plaid Cymru Ymlaen, wedi penderfynu sefyll fel Ceidwadwr yn Wrecsam yn Etholiad y Cynulliad.
Cafodd John Marek ei ddewis i sefyll dros y Ceidwadwyr yn Wrecsam , gan faeddu’r cynghorydd Ranil Jayawardena o Basingstoke a’r cynghorydd Julian Thompson-Hill o Brestatyn.
Cafodd ei ethol fel AS dros Wrecsam yn 1983, ond gadawodd yn 2011 er mwyn canolbwyntio ar y Cynulliad.
Cadwodd ei sedd fel aelod annibynnol yn 2003 ar ôl beirniadu’r Blaid Lafur am fod yn rhy adain dde, ac yna ffurfiodd y blaid Cymru Ymlaen. Collodd y sedd i Lafur yn 2007.
Daeth Cymru Ymlaen i ben yn gynharach eleni ac mae John Marek bellach wedi ymuno â’r Ceidwadwyr.
“Mae gen i gyfle da o ennill y flwyddyn nesaf – mae pawb yn fy nabod i a fy hoffi i,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.
“Rydw i’n credu bod y Ceidwadwyr i’r chwith o Lafur ar rai pynciau.”
Dywedodd fod angen i Lywodraeth y Cynulliad fod i Gymru gyfan yn hytrach na bod yn “gyngor Morgannwg”.