Cafodd criw achub sioc ar ôl cael eu galw allan i ymchwilio i gwch ar y môr a dod o hyd i barti o ddynion noethlymun.
Roedd y parti stag wedi chwifio ar yrrwr yr hofrennydd RAF wrth iddo hedfan i weld i weld beth oedd yn mynd ymlaen.
Roedd dyn camera ar yr hofrennydd hefyd yn creu rhaglen ddogfen am y criw ac mae’r ffilm i’w gweld ar-lein fan hyn.
Cafodd y 10 dyn, o Bradleystoke, ym Mryste, eu dal yn ystod trip pysgota dwy awr o hyd oddi ar arfordir Abertawe, dydd Sadwrn.
Roedd gwylwyr y glannau wedi sylwi ar y cwch bach oddi ar arfordir y Mwmbwls ac wedi gofyn i hofrennydd RAF oedd yn mynd heibio i gael cipolwg.
“Roedd hofrennydd achub Sea King ar ei ffordd yn ôl i RAF Chivenor yn Nyfnaint pan ofynnodd gwylwyr y glannau Abertawe a allai gael golwg ar gwch drwgdybus,” meddai llefarydd ar ran y RAF.
“Wrth iddyn nhw nesáu fe sylweddolon nhw fod y pysgotwyr yn hollol noeth. Doedden nhw ddim mewn unrhyw beryg – heblaw, efallai, eu bod nhw’n dal annwyd.”
“Dw i’n siŵr bod peilotiaid yr hofrennydd yn chwerthin am y peth hefyd.”
Dywedodd Mark Thomas, un o’r deg a chapten y cwch Blue Thunder wrth bapur newydd y Swansea Evening Post mai “dipyn o hwyl” oedd y cwbl.
“Wnes i ddim ymuno, roedd hi braidd yn oer i fi,” meddai.