Mae llwyddiant mawr y dydd-Sul-am-ddim yn golygu bod y tyrfaoedd yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd ar hyn o bryd yn uwch nag ar yr un adeg mewn unrhyw eisteddfod ers deng mlynedd.

Erbyn diwedd dydd Llun, roedd 58,396 wedi bod trwy’r gatiau, bron 3,500 yn fwy na’r uchafswm ucha’ cyn hynny – yn Eisteddfod Abertawe 2006.

Ond roedd ddoe ynddo’i hun yn fwy siomedig – er bod y Coroni, dim ond 15,461 a ddaeth i’r Maes, y ffigwr isa’ ers deng mlynedd.

Roedd llwyddiant cyngerdd Only Men Aloud nos Wener hefyd wedi cryfhau’r cyfanswm ac roedd yna hwb pellach neithiwr gyda thyrfa fawr ar gyfer cyngerdd o ganeuon y sioeau.

Erbyn diwedd dydd Llun yn Y Bala y llynedd, roedd y cyfanswm yn 54,411.

Mae’n  bwrw ar y maes heddiw felly fe allai nifer yr ymwelwyr yfory fod yn isel eto.

Nifer ymwelwyr dydd Llun:

Tyddewi: 17,459

Meifod: 21,012

Casnewydd: 18,080

Eryri: 20,720

Abertawe: 20,123

Yr Wyddgrug: 18,608

Caerdydd: 20,423

Y Bala: 19,658

Glyn Ebwy: 15,461