Mae arweinwyr gwleidyddol yn Ngogledd Iwerddon wedi beirniadu terfysgwyr gweriniaethol heddiw ar ôl ymosodiad bom ar swyddfa heddlu yn y wlad.

Cafodd gyrrwr tacsi ei fygwth gyda gwn a’i orfodi i yrru’r ffrwydryn i orsaf heddlu Strand Road Londonderry.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu ond fe achosodd y bom ddifrod i’r adeilad a tai hen bobol dros y ffordd. Condemniodd AS yr ardal, Mark Durkhan o’r SDLP, yr rheini oedd yn gyfrifol.

“Roedd hon yn weithred llwfr, peryglus a di-foes,” meddai.

“Rydan ni’n hynod o ffodus na gafodd unrhyw un ei anafu o ganlyniadau i’r ymosodiad. Dydi’r rheini sy’n gyfrifol heb gyflawni unrhywbeth gyda’u hymgyrch treisgar.”

Difrod

Dywedodd yr heddlu bod dau ddyn, un yn dal gwn, wedi herwgipio gyrrwr y tacsi yn fuan wedi 3yb.

Rhoddwyd y bom yn y car a gorfodwyd ef i yrru i swyddfa’r heddlu. Roedd yr heddlu wrthi’n gwagio’r adeilad pan ffrwydrodd y ddyfais, tua 3.20yb.

“Mae yna lot fawr o ddifrod,” meddai Maer Derry, Colm Eastwood. “Mae’r car wedi ei ddifrodi’n llwyr a mae rhai busnesau groes yr hewl wedi eu difrodi hefyd.”

“Doedd gan yr heddlu ddim amser i wagio tai hen bobol a fflat dros y stryd i orsaf yr heddlu.”