Mae grŵp trafod a oedd yn cael ei noddi gan Fwrdd yr Iaith yn galw am drawsnewid maes dysgu Cymraeg i oedolion.
Maen nhw hefyd eisiau “proffesiynoli” gweithwyr y Mentrau Iaith a’u cael nhw i weithio mwy i ddatblygu cymunedau.
Mae dogfen o’r enw Gorwelion Newydd, sy’n cael ei chyhoeddi ar faes yr Eisteddfod heddiw, hefyd yn galw am osod statws swyddogol i’r Gymraeg o fewn y Ddeddf Iaith newydd ond yn awgrymu bod pethau cryfach na deddfau i boeni amdanyn nhw.
‘Symud arian’
Mae’r grŵp yn dweud bod angen symud llawer o’r arian sy’n cael ei wario ar ddosbarthiadau a chyrsiau cyffredinol a’i wario ar “gynnal rhaglen genedlaethol drwyadl i ddysgu a gloywi iaith gweithwyr mewn sefydliadau cyhoeddus”.
“Mae angen ail gyfeirio sylweddol ar y gyllideb,” meddai Gareth Ioan o IAITH: y ganolfan gynllunio iaith, ac awdur y ddogfen derfynol. “Mae yna amheuaeth ynglŷn â pha mor gost effeithiol yw’r dosbarthiadau yn y gymuned.
“Efallai na fyddai’r dosbarthiadau yn y gymuned yn diflannu’n llwyr, ond mae angen newid y balans.”
‘Angen proffesiynoli’
Un o’r prif alwadau ym maes addysg yw y dylai dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ddod yn “norm” o fewn “rhannau helaeth” o’r gyfundrefn addysg bellach – lle mae’r ddarpariaeth ar hyn o bryd yn cael ei hystyried yn brin.
Mae’r ddogfen hefyd yn galw am Goleg Gweinyddiaeth Gyhoeddus yng Nghymru i “hyrwyddo ethos Cymreig a Chymraeg yn y gwasanaeth sifil”.
Un o’r prif negeseuon yw fod angen proffesiynoli gwaith y Mentrau Iaith, trwy hyfforddi gweithwyr mewn dulliau datblygu cymunedol a chreu proffesiwn, gyda’i egwyddorion ei hun a digon o gyfle i drafod a datblygu syniadau.
“Mae angen hyfforddi gweithwyr i weithio gyda chymunedau er mwyn rhoi’r gallu iddyn nhw ymrymuso eu hunain,” meddai Gareth Ioan.
Cefndir
Fe gafodd y ddogfen ei chynhyrchu gan ‘felin drafod’ – cyfres o dri o gyfarfodydd anffurfiol ymhlith “unigolion blaenllaw” ym maes yr iaith. Roedd y rheiny’n cael eu trefnu gan IAITH gyda chefnogaeth y Bwrdd.
Roedden nhw wedi cyfarfod deirgwaith – yn Aberystwyth, Llanelli, a Dyffryn Conwy. Roedd y trafodaethau’n digwydd o dan reolau Chatham House, sy’n golygu nad oes neb yn cael eu dyfynnu wrth eu henw.
Llun: Gareth Ioan