Mae yna oedi ar drenau yng ngogledd Cymru heddiw ar ôl i ddynes farw ar y lein ger Caer.
Dywedodd Arriva Trains Wales bod gyrrwr y trên 5.45am o Wrecsam i Gaer wedi dweud ei fod o wedi taro person ar Gyffordd Saltney ger Caer.
Cafodd y lein ei ail agor tua 8.30am ar ôl i Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ymchwilio.
Roedd trenau Arriva Trains Wales a Virgin i Landudno a Caergybi wedi eu heffeithio.