Mae banc Northern Rock wedi cyhoeddi heddiw y bydd o’n dychwelyd i’r sector breifat “pan mae’r amgylchiadau yn iawn” wrth gyhoeddi colled o £140 miliwn yn hanner cyntaf y flwyddyn.

Dywedodd penaethiaid y banc mai dyna’r canlyniad oedden nhw yn ei ddisgwyl, er eu bod nhw’n dal yn y coch.

Serch hynny roedd Northern Rock Asset Management, ochor “drwg” y banc a holltwyd ym mis Ionawr, wedi gwneud elw o £167.3 miliwn.

Mae’r ddau fanc yn dal mewn dyled o £22.5 biliwn i’r trethdalwr ers i Lywodraeth San Steffan benderfynu achub Northern Rock yn 2008.

Dim ond £300 miliwn wnaethon nhw ei dalu yn ôl yn y chwe mis diwethaf.

Dywedodd y Prif Weithredwr Gary Hoffman bod canlyniadau North Rock AM yn “galonogol”.

Ond roedd y canlyniadau heddiw yn dangos bod llai o bobol wedi rhoi eu harian yn Northern Rock ar ôl i’r llywodraeth roi’r gorau i warantu’r arian ym mis Mai.