Mae ITV wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer codi tal ar wylwyr sydd eisiau defnyddio eu sianeli Manylder Uchel ar Sky.

Dywedodd y darlledwr y byddai ITV2 HD, ITV3 HD, a ITV4 HD ar gael fel rhan o system tanysgrifio SKY+ HD.

Fe fydd ITV2 HD yn lansio ym mis Hydref ac yn gobeithio denu gwylwyr gyda rhaglenni fel The Xtra Factor, fydd yn dechrau’r un pryd.

Dywedodd y darlledwr bod darlledu am ddim wedi ei erydu dros y blynyddoedd gan newidiadau technolegol. Roedd rhaid i’r darlledwr “fod yn llai dibynnol” ar hysbysebu, meddai.

“Mae talu am wylio teledu wedi tyfu a thyfu dros y degawd diwethaf ac mae hyn yn esiampl wych o sut all sianeli tanysgrifio newydd ITV gydweithio gyda sianeli am ddim ITV,” meddai llefarydd ar ran y darlledwr.

Cyhoeddodd y cwmni eu bod nhw wedi gwneud elw o £97 miliwn ar gyfer y chwe mis tan 30 Mehefin, heddiw. Mae’n debyg bod cael darlledu rywfaint o Gwpan y Byd Pêl-droed wedi bod yn hwb mawr o ran yr elw o hysbysebion, oedd yn isel iawn y llynedd.