Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi galw am ddatganoli rheolaeth dros deledu a radio i Gymru, heddiw.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones y dylai Llywodraeth y Cynulliad fod â rheolaeth dros y BBC, S4C a gorsafoedd masnachol eraill yng Nghymru.

Mewn araith ar Faes yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy heddiw fe fydd o’n dweud fod yna “resymau economaidd, diwylliannol a democrataidd” dros ddatganoli radio a theledu i Gymru.

Fe fydd o hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth y Cynulliad gael gosod cyllideb S4C, a sefydlu Ymddiriedolaeth Gymreig i’r BBC.

Byddai Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn sicrhau bod sianeli radio Radio Cymru a Radio Wales ar gael i bawb yn y wlad, yn ôl yr araith.

Fe fydd o hefyd yn addo y bydd datganoli darlledu yn rhan bwysig o faniffesto ei blaid ar gyfer etholiad Llywodraeth y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae’r diwydiant mor bwysig i Gymru yn economaidd nad ydi hi’n gwneud synnwyr cyn lleied o reolaeth sydd gan Lywodraeth y Cynulliad drosti, meddai yn yr araith.

Mae “y Llywodraeth yn San Steffan yn ymosod ar ddarlledu yng Nghymru,” a dyw darlledwyr ddim yn “darparu gwasanaeth digonol ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru,” meddai.

“Mae allbwn y BBC sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru wedi disgyn o 824 awr i 696 awr,” meddai. “Mae gwario’r BBC ar raglenni Saesneg wedi disgyn o £26.8m i £23.6m rhwng 2005 a 2009.”

Daw ei araith ar ôl cyfnod cythryblus yn hanes darlledu yng Nghymru. Roedd adroddiadau yn y wasg fis diwethaf yn awgrymu y byddai S4C yn derbyn 24% yn llai o grant o Lundain o’r flwyddyn nesa’ ymlaen.

Yr wythnos diwethaf gadawodd prif weithredwr S4C, Iona Jones, ei swydd yn sydyn a bellach mae Arwel Ellis Owen wedi ei benodi’n brif weithredwr dros dro yn ei lle.