Mae yna bryderon ynglŷn â lledaeniad colera ac afiechydon eraill ym Mhacistan ar ôl i’r llifogydd gwaethaf yn hanes y wlad ladd 1,200 o bobol.

Mae’r trychineb wedi gorfodi bron i dair miliwn o bobol adael eu tai ac mae’r llywodraeth wedi ei feirniadu am beidio â darparu digon o gymorth brys bron i wythnos ar ôl i’r glaw llifeiriol ddechrau disgyn yn rhanbarth Khyber-Pakhtoonkhwa.

Fe allai’r afiechydon ladd miloedd o bobol os nad ydi’r achubwyr yn gallu dosbarthu digon o ddŵr yfed glan a dod o hyd i gleifion sy’n dioddef mewn gwersylloedd gorlawn.

“Er mwyn osgoi bygythiad afiechydon sydd wedi eu cario gan y dŵr, yn enwedig colera, rydan ni wedi gyrru dwsinau o dimau meddygol symudol i’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio,” meddai Sohail Altaf, prif swyddog meddygol Khyber-Pakhtoonkhwa.

Mae cleifion sy’n dioddef ar ôl yfed dŵr budr eisoes yn cael eu trin yng ngwersylloedd meddygol y llywodraeth.

Dywedodd y llywodraeth eu bod nhw wedi gyrru miloedd o achubwyr i’r ardal a’u bod nhw wedi achub 28,000 o bobol erbyn hyn.

Mae’r fyddin hefyd wedi gyrru tua 30,000 o filwyr a dwsinau o hofrenyddion, ond mae graddfa’r dinistr mor fawr bod sawl un sydd wedi ei ddal yng nghanol y llifogydd yn teimlo nad ydi’r llywodraeth yn gwneud dim.

Mae eu dicter nhw yn her arall i lywodraeth sydd eisoes yn simsanu, ac sydd bellach yn cystadlu gyda grwpiau Islamaidd sy’n dosbarthu cymorth i’r ardal.

Mae miloedd o bobol yn y rhanbarth wedi eu dal gan y llifogydd o hyd.

“Mae angen pebyll arnom ni,” meddai un o ddioddefwyr y llifogydd, Faisal Islam. Roedd o’n eistedd ar yr unig dir sych yn ardal Nowshera, wedi ei amgylchynu gan gannoedd o bobol yn cysgu dan gynfasau budr.

“Dyma’r unig grys dydd gen i. Mae popeth arall wedi ei gladdu.”

Dywedodd eu bod nhw wedi cael rywfaint o olew coginio a siwgr gan y fyddin, ond eu bod angen llawer mwy nag hynny arnyn nhw.