“Mae rhywbeth sy’n rhoi ystyr i fywyd” – a’r ystyr hwnnw oedd fframwaith y cerddi a enillodd y Goron, meddai’r bardd ei hun.
Mae Glenys Mair Glyn Roberts o Lantrisant, yn dweud ei bod yn barddoni ers deng mlynedd ond nad oedd wedi cael cyfle i gystadlu cyn yr Eisteddfod eleni.
Naw mlynedd yn ôl y bu farw’i thad a’i benderfyniad ef i ddysgu Cymraeg oedd un o’r ysgogiadau mawr iddi sgrifennu’r casgliad cerddi, sy’n sôn am natur newid a’r pethau oesol.
‘Pobl arbennig’
“Pan o’ ni’n iau, dw i’n credu mod i’n meddwl fod beirdd yn fath o bobol arbennig a’r gwaith yn llifo’n ddiymdrech. Ond, dw i wedi dod i sylwi nad yw hynny’n gwbl wir mewn gwirionedd,” meddai Glenys Roberts.
Geiriau cynta’ ei cherdd i’w thad yw “Bu’r gerdd yma’n hir yn dod”. Mae ‘Cenaist Gân’ yn deyrnged i’w thad – Reg Powell o Bontnewynydd ger Pont-y-pŵl, ac fe brofodd sawl newid trawmatig yn ystod ei oes, gan gynnwys colli ei fam pan oedd yn chwech oed.
Ond, meddai, mae’r gerdd yn cyfeirio at ‘un newid tyngedfennol a ddewisodd drosto’i hun, sef newid iaith.
Mae cerddi eraill yn sôn am y poenydio a’r dioddefaint sy’n parhau tra bod y gerdd ola’ i’w hŵyr yn darlunio’r golau yn ei lygaid sy’n dal rhin sy’n hŷn na’r ddynoliaeth – llafn cariad.
‘Balch’
Fe ddywedodd y byddai ei thad yn arbennig o falch pe bai’n gwybod ei bod hithau wedi ennill y Goron yn ei hen sir.
“Ar eisteddfod eleni yn yr hen Sir Fynwy, mae’r fraint o ennill coron yn wefr gwbl arbennig,” meddai.“Mi fyddai fy nhad wedi bod wrth ei fodd.
“Mae’n goron hyfryd ac mae’n cynrychioli’r ardal. Fe fydd rhaid i mi wneud lle iddi ar y dresel nawr,” meddai.