Mae hyfforddwr y Crusaders wedi galw ar ei chwaraewyr i ddal ati wrth iddynt dargedu lle yn rownd wyth olaf y Super League yn dilyn buddugoliaeth ysgubol yn erbyn y Salford City Reds.

Fe enillodd y Crusaders 60-16 – eu buddugoliaeth fwyaf ers ymuno gyda’r Super League.

Sgoriodd y clwb o Gymru 11 cais gyda Nick Youngquest yn cael tair, Clinton Schifcofske a Tony Martin dwy yr un gyda Rhys Hanbury, Ryan O’Hara, Weller Hauraki a Frank Winterstein hefyd yn croesi’r llinell gais.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi tîm Brian Noble i’r nawfed safle yn y Super League, gyda’r un pwyntiau â Castleford sy’n hawlio’r wythfed safle ar hyn o bryd- ond mae gan y Crusaders un gêm ychwanegol i chwarae.

“Roedd yna bobl yn dweud y bydden nhw’n hapus pe bai ni’n ennill tair gêm eleni. Ond ry’n ni wedi ennill tair yn olynol sy’n ein hagosâi at rownd yr wyth olaf,” meddai Brian Noble.

“Ein tasg ni yw parhau i chwarae ar ein gorau bob wythnos. Ry’n ni wedi ennill naw neu ddeg gêm, ond d’y ni ddim yna eto”

Fe fydd gêm nesaf y Crusaders yn cael ei chwarae ar y Gnoll yn erbyn Harlequins nos Wener.