Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cadarnhau y bydd gweithredu milwrol gan yr Unol Daleithiau yn dod i ben yn Irac erbyn 31 Awst.
Ond mi fydd tua 50,000 o filwyr Americanaidd yn aros yno hyd at ddiwedd 2011, i gynghori lluoedd arfog y wlad.
Wrth siarad o flaen cyn-filwyr heddiw, dywedodd fod ymrwymiad yr Unol Daleithiau yn Irac yn newid o fod yn un milwrol wedi ei harwain gan filwyr, i fod yn ymdrech gan sifiliaid sydd yn cael ei arwain gan ddiplomyddion.
Roedd Barack Obama eisoes wedi gorchymyn i 30,000 o filwyr ychwanegol gael eu hanfon i Afghanistan.