Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud y drefn wrth seneddwr o’r Unol Daleithiau am gysylltu’r penderfyniad i ryddhau bomiwr Lockerbie â chytundeb olew cwmni BP yn Libya.
Mewn llythyr i Robert Menendez – sy’n cadeirio pwyllgor o seneddwyr sy’n ymchwilio’r penderfyniad i ryddhau Abdelbaset Ali Mohmed Al Megrahi ar sail trugaredd – gwadodd Alex Salmond y fath gysylltiad.
Dywedodd hefyd na ddylai Robert Menendez na’r pwyllgor geisio cysylltu’r penderfyniad â chymhelliant economaidd na masnachol “pan nad oes unrhyw dystiolaeth o gwbl am y fath honiad.”
Ailfynegodd ei wrthwynebiad hefyd i gyhuddiadau gan y seneddwr ei fod ef, ac eraill, wedi ceisio rhwystro ymchwiliad y pwyllgor drwy wrthod gwahoddiad i fynd i roi tystiolaeth yn yr Unol Daleithiau.
“Mae hi’n anodd dychmygu amgylchiadau lle byddai gwleidyddion o’r Unol Daleithiau yn cytuno i ymddangos fel tystion mewn gwrandawiad neu gwest mewn gwlad arall,” meddai.
Tystion
Mae Robert Menendez wedi awgrymu ei fod yn awyddus i gyfweld â thystion a oedd yn ymwneud â’r penderfyniad i ryddhau al-Megrahi, yng ngwledydd Prydain.
Mae Alex Salmond wedi dweud y byddai’n fodlon “o ran cwrteisi” i gyfarfod â gwleidydd sy’n ymweld.
Rhyddhawyd al-Megrahi gan Lywodraeth yr Alban ar sail trugaredd ym mis Gorffennaf 2009.
Er bod doctoriaid wedi dweud y byddai’n marw o fewn tri mis, mae dal i fyw gyda’i deulu ym mhrifddinas, Libya, Tripoli.
Fei cafwyd yn euog o ffrwydro awyren dros dref Lockerbie yn yr Alban yn 1988, gan ladd 270 o bobol.