Glenys Mair Glyn Roberts o Lantrisant sydd wedi ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni.

Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu am y goron ac wrth draddodi’r feirniadaeth, fe ddywedodd Mererid Hopwood fod un o’r beirniaid, y diweddar Iwan Llwyd wedi’i gyfareddu “ar y darlleniad cyntaf.”

‘Newid’ oedd testun y gystadleuaeth eleni a thasg y 34 o gystadleuwyr oedd creu casgliad o gerddi heb fod dros 200 llinell.

Yn Nyffryn Ceiriog y ganed Glenys Roberts ond symudodd y teulu i Fôn pan oedd yn ddeunaw mis oed, ac yno cafodd ei magu.

Bellach, mae’n byw yn Llantrisant, Morgannwg, yn briod â Guto, yn fam i Dafydd, Mari ac Elen ac yn nain i Gwenno ac Ifan.

‘Llais treiddgar’

Fe ddywedodd y beirniaid fod ganddi “lais treiddgar” sy’n “mynnu gwrandawiad” a’i bod yn ei gwaith yn son am gyflwr ni fel pobl ar draws byd.

“Cafodd y tri ohonom gyfle i drafod y cerddi gyda’n gilydd yn Aberystwyth un dydd yn dechrau mis Mai. Yn anffodus, bu farw’r Prifardd Iwan Llwyd cyn iddo gael cyfle i gyflwyno ei feirniadaeth ysgrifenedig, ond, mae’n briodol nodi bod y tri ohonom yn gytûn ar y penderfyniad,” meddai Mererid Hopwood.

Casgliad o gerddi rhydd yw’r rhain yn ymdrin â newid mewn gwahanol ffyrdd, ond y thema yn gyffredinol yw nad yw patrymau sylfaenol bywyd, geni, tyfu, aeddfedu, dadfeilio, darfod – fyth yn newid.