Mae un o gynhyrchwyr rhaglen iphone arbennig ‘isteddfod’ wedi dweud wrth Golwg360 wrth lansio’r rhaglen ar y maes heddiw fod “angen i bobl Cymru feddwl mwy am sut i ddefnyddio technoleg i farchnata a gwerthu” digwyddiadau.
Fe ddywedodd Ambrose Choy, rhaglennydd ‘isteddfod’ o gwmni fiafo wrth Golwg360 fod defnyddio rhaglenni fel ‘isteddfod’ sy’n rhestru digwyddiadau a gigiau yr eisteddfod ar ffonau symudol yn ogystal â rhaglenni tebyg yn ffordd o “agor Cymru i’r byd.”
Blackberry a ffonau eraill
Bwriad y dyn busnes ifanc o Lanberis yw addasu rhaglenni eisteddfod tebyg ar gyfer ffonau Blackberry, Windows Mobile a ffonau Android, meddai.
“Un o’r sialensiau i ni wynebu yn yr eisteddfod oedd dyfalu tybed oedd signal am fod yno,” meddai Ambrose Choy sydd eisoes wedi gweithio fel rhaglennydd i gwmni Sony cyn dechrau ei fusnes ei hun.
Dyw Ambrose Choy a’i bartner busnes y cynllunydd graffig, Edryd Sharp ddim yn siŵr faint sydd wedi prynu’r rhaglen eisteddfod i phone arbennig am £1.19 ceiniog eto.
Fe gafodd y ddau’r syniad ar ôl eisteddfod y Bala’r llynedd.
“Dydyn ni ddim wedi cael arian gan neb. Rydan ni wedi rhoi lot o’n hamser ni i mewn i’r holl beth a’r marchnata,” meddai.
Hybu’r iaith
“Mae’r Eisteddfod yn rhywbeth rydan ni’n mynd iddo bob blwyddyn, felly dyma feddwl flwyddyn ddiwethaf y bydden ni’n sortio rhywbeth i hybu’r iaith.
“Roedden ni’n synnu nad oedd neb wedi’i wneud o’n barod.
“Rydan ni eisiau dangos technoleg yn Gymraeg. Does dim llawer o raglenni Cymraeg o gwmpas – ddim hanner digon,” meddai cyn disgrifio’r fenter fel “hwyl hefyd.”
Bwriad y partneriaid busnes yr wythnos hon yw “cael adborth gan ddefnyddwyr.”