Cafodd chwech o blant eu lladd pan ffrwydrodd hunanfomiwr ei hun ger un o gerbydau’r heddlu yn ne Afghanistan heddiw.

Digwyddodd y ffrwydrad yn ardal Dand yng ngorllewin dinas Kandahar, a chredir mai amcan yr ymosodwr oedd lladd swyddog o’r llywodraeth a oedd yn cael ei gludo yn y cerbyd.

Ni chafodd y swyddog ei anafu.

Credir mai’r Taliban oedd yn gyfrifol, wrth iddyn nhw barhau i wrthymosod yn erbyn cyrchoedd milwyr Nato yn nhaleithiau Kandahar a Helmand.

Mae’n debyg mai’r Taliban oedd yn gyfrifol hefyd am ymosodiad arall yn ninas Jalalabad, ar gonfoi un o ymgynghorwyr Arlywydd Afghanistan.

Roedd bom wedi cael ei guddio mewn cerbyd rickshaw, a chafodd y cynghorwr ei anafu, ond ddim yn ddifrifol.

Yn y cyfamser, mae lluoedd Nato wedi lladd 30 o bobol yn nhalaith Nuristan, wrth iddyn nhw ymosod ar ddau bentref, Bachancha a Badmuk, a oedd yn gadarnleoedd i’r Taliban.