Mae timoedd meddygol wedi cael eu hanfon i ogledd orllewin Pacistan yn sgil ofnau y bydd pobl yn mynd yn sâl wrth i lifogydd difrifol gario heintiau.

Mae’r llifogydd gwaethaf yn hanes y wlad wedi lladd hyd at 1,100 o bobol yn barod, ac mae degau o filoedd wedi cael eu hachub.

Ond mae ofnau y gallai heintiau fel colera a diarrhoea gael ei gario gan y dŵr ac, yn ôl awdurdodau’r wlad, mae dwsinau o dimoedd achub yn cael eu hanfon i’r ardal i geisio atal epidemig.

Roedd y glawogydd monsŵn wedi achosi llifogydd ofnadwy wnaeth ddinistrio pentrefi cyfan yn ôl adroddiadau, ac mae gweithwyr achub wedi bod wrthi’n symud dros 40,000 o bobol i ddiogelwch.

Llun: Tad yn dal gafael ar ei fab wrth iddo gerdded trwy’r llifogydd at weddillion ei dŷ ger Nowshera, Pacistan, heddiw (AP Photo/Anjum Naveed)